Verwandte Artikel zu Y Caeth yn Rhydd

Y Caeth yn Rhydd - Softcover

Nest, Jim Parc

 
9781911584957: Y Caeth yn Rhydd

Inhaltsangabe

Rhyddhau'r gair, rhyddhau'r person a rhyddhau'r genedl. Dyma nod y Prifardd Jim Parc Nest wrth gyhoeddi'r gyfrol arbennig hon. Dyma fardd sy'n angerddol dros "ryddhau'r gynghanedd rhag bod yn grefft ei 'gorffennol yn unig'" a dymuna i'r gyfrol fod yn ysgogiad i lawer arbrofi gyda'r gynghanedd. Teimlwn y cyffro a'r arbrofi hwn yn ei gerddi wrth iddo ganu mawl i Iolo Morgannwg a gwrthwynebu gorthrwm,Rhyddhau'r gair, rhyddhau'r person a rhyddhau'r genedl. Dyma nod y Prifardd Jim Parc Nest wrth gyhoeddi'r gyfrol arbennig hon. Dyma fardd sy'n angerddol dros 'ryddhau'r gynghanedd rhag bod yn grefft ei 'gorffennol yn unig' a dymuna i'r gyfrol fod yn ysgogiad i lawer arbrofi gyda'r gynghanedd. Teimlwn y cyffro a'r arbrofi hwn yn ei gerddi wrth iddo ganu mawl i Iolo Morganwg a gwrthwynebu gorthrwm. -- Cyngor Llyfrau Cymru

Die Inhaltsangabe kann sich auf eine andere Ausgabe dieses Titels beziehen.

Über die Autorin bzw. den Autor

Yn wreiddiol o Gastellnewydd Emlyn, mae Jim Parc Nest bellach wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd. Mae’n gyn-Archdderwydd ac wedi ennill Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith; y tro cyntaf yn Eisteddfod Sir y Fflint yn 2007 a’r eildro yn Eisteddfod Genedlaethol Conwy, 2019. Mae hefyd wedi ennill Coron yr Eisteddfod ddwywaith, yn Abergwaun yn 1986 a Chasnewydd yn 1988. Mae'n Brifardd cyhoeddedig ac yn ddramodydd llwyfan, radio a theledu. Jim yw awdur Dan y Wenallt, ei gyfieithiad o Under Milk Wood gan Dylan Thomas. Yn 2014 cyhoeddodd gyfrol ffeithiol-greadigol yn rhan o Gyfres Llenorion Cymru (Cyhoeddiadau Barddas) am ei fywyd fel un o lenorion amlycaf Cymru. -- Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas

„Über diesen Titel“ kann sich auf eine andere Ausgabe dieses Titels beziehen.