Críticas:
Dyma nofel feiddgar syn ddigon lliwgar ar adegau! Am fod y nofel yn llawn o ddisgrifiadau graffig a nodweddion arddull awgrymog, mi fydd hin siwr o wneud i bob darllenydd gochi! Mae'r nofel yn dilyn hanes Tina Thomas, newyddiadurwraig ifanc a brwd ir Borth Journal. Heb ddatgelur plot yn ormodol, rydym yn dod i adnabod cymeriadau pentref y Borth a ffrindiau Tina. Wrth i gyfrinachau pawb gael eu datgelun araf, buan y sylweddolwn fod digon o gyfrinachau a digwyddiadau yn y pentref bach i synnu pawb. O Gwennan, yr eneth barchus a diniwed syn gorfod wynebu cyfrinach fawr yn angladd ei mam-gu, ir doctor parchus, Richard Jones, syn gi nwydwyllt tu l i ddrysau caeedig! Cawn ddod i adnabod Bryn y Boncyn, y ffermwr cyfrwys syn ysu am ddynes i lenwi'i fywyd, ond feddyliodd neb y byddain cael ei fachau ar yr un a gafodd yn y pen draw! Dyma nofel hawdd iw darllen, er i mi deimlo ar adegau ei bod yn aros yn ei hunfan yn rhy hir. Gall rhai or cymeriadau fod yn rhy ystrydebol weithiau, ac efallai bod tuedd i geisio bod yn rhy liwgar ac amrwd, sydd ddim yn llwyddo bob tro. Yn sicr dyma nofel iw darllen ar bnawn dydd Sul diog ac a fydd yn bendant yn ennyn chwerthiniad a gwn fydd yn codi calon rhywun. Mae'r mynegiant yn flr mewn mannau sydd yn llesteirio'r darlleniad o bryd i'w gilydd. Mae yma ddigon o regfeydd i ddal diddordeb llond tafarn o ddynion meddw, a digon o ryw i ddychryn y ci mwyaf. Yn ddi-os, mae yma ddiddanwch mewn nofel hawdd iw darllen nad ywn gofyn gormod gan y darllenydd. Lowri Mair Jones Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru
Reseña del editor:
Fact and fiction, photographic memorabilia and attractive illustrations are found in this unique book on farming.
„Über diesen Titel“ kann sich auf eine andere Ausgabe dieses Titels beziehen.