Verwandte Artikel zu Iaith Oleulawn': Geirfa Dafydd ap Gwilym

Iaith Oleulawn': Geirfa Dafydd ap Gwilym - Softcover

Johnston, Dafydd

 
9781786835673: Iaith Oleulawn': Geirfa Dafydd ap Gwilym

Inhaltsangabe

Dyma’r astudiaeth gyflawn gyntaf o eirfa Dafydd ap Gwilym. Dangosir ynddi sut y creodd Dafydd farddoniaeth gyfoethog ac amlweddog trwy gyfuno ieithwedd hen a newydd, llenyddol a llafar, brodorol ac estron. Trafodir y geiriau a gofnodwyd am y tro olaf yn ei waith, a’r nifer fawr a welir am y tro cyntaf, y benthyciadau o ieithoedd eraill, ei ddulliau o ffurfio geiriau cyfansawdd, a geirfa arbenigol amryw feysydd fel crefydd, y gyfraith, masnach a’r meddwl dynol. Roedd y bedwaredd ganrif ar ddeg yn gyfnod o newid mawr yn yr iaith Gymraeg yn sgil datblygiadau cymdeithasol a dylanwadau gan ieithoedd eraill, a manteisiodd Dafydd ar yr ansefydlogrwydd i greu amwysedd cyfrwys. Trwy sylwi’n fanwl ar y defnydd o eiriau gan Ddafydd a’i gyfoeswyr datgelir haenau newydd o ystyr sy’n cyfoethogi ein dealltwriaeth o waith un o feirdd mwyaf yr iaith Gymraeg.

Die Inhaltsangabe kann sich auf eine andere Ausgabe dieses Titels beziehen.

Über die Autorin bzw. den Autor

Yr Athro Dafydd Johnston yw Cyfarwyddwr Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru.

„Über diesen Titel“ kann sich auf eine andere Ausgabe dieses Titels beziehen.