Verwandte Artikel zu Perfformio'r Genedl: Ar Drywydd Hywel Teifi Edwards

Perfformio'r Genedl: Ar Drywydd Hywel Teifi Edwards - Softcover

 
9781786830340: Perfformio'r Genedl: Ar Drywydd Hywel Teifi Edwards

Zu dieser ISBN ist aktuell kein Angebot verfügbar.

Críticas

'Dyma gyfrol arloesol ac amheuthun sy'n cynnig cyfres o ymatebion ysgolheigaidd i waith Hywel Teifi Edwards, ac sy'n ehangu'r drafodaeth ar astudiaethau theatr a pherfformiad yn Gymraeg. Tra bod gwaith Edwards yn wybyddus iawn ym maes y Gymraeg, dyma'r llyfr cyflawn cyntaf i hawlio pwysigrwydd ac arwyddocad i'w waith i astudiaethau theatr a pherfformiad yn benodol.' - Dr Lisa Lewis, Prifysgol De Cymru

Reseña del editor

Mae Perfformio'r Genedl yn gyfrol sy'n cloriannu a chydnabod cyfraniad Hywel Teifi Edwards i'r broses bwysig o ddiffinio anian ac athrylith perfformiadol cenedl y Cymry. Dyma ymgais arloesol i ddathlu cyfraniad Edwards i faes nas cloriannir yn benodol mewn un cyfraniad canolog ganddo, ond sydd yn brigo i'r wyneb drwyddi draw mewn ystod eang o'i weithiau unigol. Archwilir nifer o agweddau gwahanol ar waith y gellid ei uno o dan bennawd cyffredinol - sef astudiaeth o'r perfformiadol yng nghyd-destun twf cysyniad o hunaniaeth genedlaethol Cymru, o'r ddeunawfed ganrif hyd at y presennol. Mae'r gyfrol yn canoli ar themau amrywiol yng ngwaith Edwards, megis Pasiant Cenedlaethol Cymru, yr Eisteddfod Genedlaethol, traddodiadau'r Orsedd, y drafodaeth o ddramau cynnar y mudiad drama, a'r dogfennu ar weithgaredd cwmniau drama amatur. Dadleuir bod modd cysylltu'r amryw themau yn ei waith a'u trafod yng nghyd-destun astudiaeth o'r anian perfformiadol yng nghyfansoddiad y Cymry.

„Über diesen Titel“ kann sich auf eine andere Ausgabe dieses Titels beziehen.

(Keine Angebote verfügbar)

Buch Finden:



Kaufgesuch aufgeben

Sie kennen Autor und Titel des Buches und finden es trotzdem nicht auf ZVAB? Dann geben Sie einen Suchauftrag auf und wir informieren Sie automatisch, sobald das Buch verfügbar ist!

Kaufgesuch aufgeben