Verwandte Artikel zu Straeon Nos Da i Bob Rebel o Ferch - Hanes 100 o Ferched...

Straeon Nos Da i Bob Rebel o Ferch - Hanes 100 o Ferched Anhygoel - Hardcover

 
9781785622311: Straeon Nos Da i Bob Rebel o Ferch - Hanes 100 o Ferched Anhygoel
Alle Exemplare der Ausgabe mit dieser ISBN anzeigen:
 
 
Críticas:
Gwych o beth yw cael cynnyrch y prosiect arloesol hwn yn Gymraeg. Aeth yr awduron ati i gasglu straeon am 100 o ferched arloesol, gan dorrir record am lyfr gwreiddiol a gyllidwyd yn dorfol, a chan gomisiynu gwaith celf gan 60 o artistiaid benywaidd o bedwar ban byd. Cyfieithwyd y llyfr Saesneg gwreiddiol i sawl iaith eisoes, ac maer fersiwn Cymraeg yn Gymreig iawn. Nid yn unig maer Gymraeg yn llifon rhwydd, ond addaswyd peth or cynnwys fel bod y rhedwraig Lowri Morgan yn cymryd lle Margaret Thatcher. Hefyd ceir dyfyniadau pwrpasol Cymraeg gan ferched ar y clawr cadarn. Ond beth am apl y straeon eu hunain? Ceir yma gant o straeon un dudalen yr un o hyd am ferched o bob gwlad a phob cyfnod, o Cleopatra i Simone Biles y gymnastwraig, ac o bob maes, o fale i fathemateg, o fyd rasio i wleidyddiaeth, o gerddoriaeth i ffiseg. I gyd-fynd phob stori ceir portread trawiadol newydd, ynghyd dyfyniad a manylion bywgraffiadol am bob unigolyn. Ar ddiwedd y gyfrol ceir lle i berchennog y llyfr ysgrifennu ei hanes ei hunan a llunioi hunanbortread. Rhywbeth at ddant pawb, felly, ac er bod y straeon yn ddigon syml i blant iau allu eu mwynhau (o tua 6 neu 7 oed), does yna ddim byd syml am neges y llyfr, sydd yn ysbrydoliaeth i ferched o bob oedran. Maer fath gyfoeth ymchwil yn sail ir prosiect fel y bydd pawb yn elwa or adnodd newydd hwn. Yn wir, dynar unig broblem wela i gydar llyfr: maen bwysig i bawb ei ddarllen, yn fechgyn a dynion yn ogystal merched. Yn gwbl groes i lyfrau syn arfer targedu merched, does yma ddim pinc na blodau na chalonnau ar gyfyl y lle. Dyma chwa o awyr iach ich silff lyfrau. Heather Williams Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council -- Cyngor Llyfrau Cymru
Reseña del editor:
Wedi ei sgrifennu mewn dull sy'n cyflwyno pob portread fel stori - mae pob dalen yn datgelu hanes bywyd merched sy'n ysbrydoli'r darllenydd. O Astrid Lindgreen i Michelle Obama, o Coco Chanel i Marie Curie. Mae hanes un ferch o Gymru yn y gyfrol sef Lowri Morgan - y rhedwraig Ultra Marathon sydd hefyd yn adnabyddus fel cyflwynydd teledu ym maes plant a Chwaraeon. -- Gwasg Gomer

„Über diesen Titel“ kann sich auf eine andere Ausgabe dieses Titels beziehen.

  • VerlagGomer Press
  • Erscheinungsdatum2017
  • ISBN 10 1785622315
  • ISBN 13 9781785622311
  • EinbandTapa dura
  • Anzahl der Seiten224
  • Bewertung

(Keine Angebote verfügbar)

Buch Finden:



Kaufgesuch aufgeben

Sie kennen Autor und Titel des Buches und finden es trotzdem nicht auf ZVAB? Dann geben Sie einen Suchauftrag auf und wir informieren Sie automatisch, sobald das Buch verfügbar ist!

Kaufgesuch aufgeben

Beste Suchergebnisse beim ZVAB