(A new edition of a classic Welsh language mystery novel by R. Silyn Roberts originally published in 1906) "...noson oedd hon i lenwi'r ofnus â braw. Symudai cysgodion y cymylau ar hyd wyneb y ddaear, a newidiai cysgodion brigau'r coed i bob ffurf a llun dan gernodiau ffyrnig gwynt y gorllewin. Awgrymai'r cysgodion ansicr eu dawns bresenoldeb ellyllon a drychiolaethau i'r dychymyg; a swniai'r gwynt trwy'r brigau a'r glaswellt fel rhuthr lleng o ysbrydion anweledig yng ngolau gwan, gwelw'r lloer; cymerai pethau cyffredin ffurfiau annaturiol, a hawdd i feddwl dyn oedd llithro i stad freuddwydiol ac ofnus, ac ymlenwi â hanesion dychrynllyd am ffyrdd a llwybrau lle y cyniweiria ysbrydion anesmwyth eu byd." Ar eu gwyliau yng Nyffryn Llifon, mae Gwynn Morgan a'i gyfaill, y Ffrancwr Ivor Bonnard, yn clywed sibrydion am yr hen adfail rhyfedd, Plas y Nos, ac yn dysgu am hanes arswydus y lle. Wedi iddynt fynd i'w archwilio, mae ar Ivor eisiau gwybod rhagor. Tybed, mewn gwirionedd, ai cyd-ddigwyddiad yw hi eu bod ill dau yno yn y lle cyntaf? Stori ddirgelwch gyffrous sy'n cyflwyno elfennau o syniadaeth rhamantaidd ei hawdur, cyhoeddwyd Llio Plas y Nos gyntaf yn 1906 a'i hail-gyhoeddi ddwywaith yn yr 1940au. Mae'r argraffiad newydd hon mewn orgraff ddiwygiedig yn cyflwyno'r nofel o'r newydd i ddarllenwyr heddiw.
Die Inhaltsangabe kann sich auf eine andere Ausgabe dieses Titels beziehen.
Anbieter: Ria Christie Collections, Uxbridge, Vereinigtes Königreich
Zustand: New. In Welsh. Artikel-Nr. ria9781739440312_new
Anzahl: Mehr als 20 verfügbar
Anbieter: Speedyhen, Hertfordshire, Vereinigtes Königreich
Zustand: NEW. Artikel-Nr. NW9781739440312
Anzahl: 1 verfügbar
Anbieter: Buchpark, Trebbin, Deutschland
Zustand: Hervorragend. Zustand: Hervorragend | Sprache: welsh | Produktart: Bücher | (A new edition of a classic Welsh language mystery novel by R. Silyn Roberts originally published in 1906)".noson oedd hon i lenwi'r ofnus â braw. Symudai cysgodion y cymylau ar hyd wyneb y ddaear, a newidiai cysgodion brigau'r coed i bob ffurf a llun dan gernodiau ffyrnig gwynt y gorllewin. Awgrymai'r cysgodion ansicr eu dawns bresenoldeb ellyllon a drychiolaethau i'r dychymyg; a swniai'r gwynt trwy'r brigau a'r glaswellt fel rhuthr lleng o ysbrydion anweledig yng ngolau gwan, gwelw'r lloer; cymerai pethau cyffredin ffurfiau annaturiol, a hawdd i feddwl dyn oedd llithro i stad freuddwydiol ac ofnus, ac ymlenwi â hanesion dychrynllyd am ffyrdd a llwybrau lle y cyniweiria ysbrydion anesmwyth eu byd." Ar eu gwyliau yng Nyffryn Llifon, mae Gwynn Morgan a'i gyfaill, y Ffrancwr Ivor Bonnard, yn clywed sibrydion am yr hen adfail rhyfedd, Plas y Nos, ac yn dysgu am hanes arswydus y lle. Wedi iddynt fynd i'w archwilio, mae ar Ivor eisiau gwybod rhagor. Tybed, mewn gwirionedd, ai cyd-ddigwyddiad yw hi eu bod ill dau yno yn y lle cyntaf? Stori ddirgelwch gyffrous sy'n cyflwyno elfennau o syniadaeth rhamantaidd ei hawdur, cyhoeddwyd Llio Plas y Nos gyntaf yn 1906 a'i hail-gyhoeddi ddwywaith yn yr 1940au. Mae'r argraffiad newydd hon mewn orgraff ddiwygiedig yn cyflwyno'r nofel o'r newydd i ddarllenwyr heddiw. Artikel-Nr. 42921542/1
Anzahl: 1 verfügbar