Cyfres Cam at y Cewri: Cysgod y Cryman - Softcover

Elis, Islwyn Ffowc

 
9780863833991: Cyfres Cam at y Cewri: Cysgod y Cryman

Reseña del editor

Talfyriad ar gyfer oedolion sy'n dysgu'r Gymraeg o un o nofelau Cymraeg mwyaf poblogaidd ail hanner y ganrif hon, gyda nodiadau a geirfa ar waelod tudalennau. Nofel gyntaf Islwyn Ffowc Elis a ddaeth yn un o glasuron llenyddiaeth Gymraeg yw Cysgod y Cryman. Adroddir stori Harri Vaughan, mab i ffarm helaeth ym Mhowys, yn fyfyriwr yng Ngholeg Bangor yn niwedd y 1940au. Dan ddylanwad Gwylan Thomas daw Harri'n gomiwnydd ac yn anffyddiwr, a dyna gychwyn y frwydr hir rhyngddo a'i dad cefnog a chyhoeddus, Edward Vaughan. Ni all ei chwaer, Greta, briodi'r dyn y mae'n ei garu, ei Almaenwr ifanc, Karl, am fod meddyg o Sais yn benderfynol o'i chael hi'n wraig. Yn gefndir i'r stori afaelgar gwelwn ddechrau'r newid yng nghefn gwlad Cymru ar ôl y rhyfel. Ni fu ei diwylliant na'i chrefydd byth yr un fath ar ôl hynny. Cyhoeddwyd Cysgod y Cryman yn wreiddiol ym 1953, ac fe'i dewisiwyd yn 'Llyfr y Ganrif'.

„Über diesen Titel“ kann sich auf eine andere Ausgabe dieses Titels beziehen.